Mae Big Zuu yn ôl ac yn coginio dau bryd blasus iawn mewn dwy raglen Nadoligaidd. Bydd ef a’i griw, Tubsey a Hyder allan yn eu fan bwyd yn paratoi gwledd Nadoligaidd i westeion arbennig. Yn Big Zuu’s Christmas Eats: Musicians Special mae Zuu yn coginio i rai o artistiaid mwyaf adnabyddus y DU, gan gynnwys AJ Tracey a Loyle Carner. Tra yn y rhaglen Comedy Special, bydd rhai o’i hoff westeion o Gyfres 1 – Phil Wang, Rosie Jones, Desiree Burch ac Ed Gamble – yn ail ymgynull i fwynhau hwyl yr Wyl.