Mae prynu neu werthu tŷ yn rhywbeth mae nifer fawr ohonon ni’n ei wneud o leia’ unwaith yn ein bywydau a dydy e ddim wastad yn hawdd!
Yn ystod un o gyfnodau mwyaf heriol y diwydiant fe fyddwn ni’n dilyn rhai o werthwyr tai amlycaf Cymru, a phrofi’r holl emosiwn a’r ddrama sy’n dod gyda rhoi tŷ Ar Werth.