Anghofiwch y ceir yn rasio ar drywydd y drwg weithredwr a darganfod y cyffuriau; dyma heddlu cyfoes yn rhannu golwg onest ar fywyd ar strydoedd de Cymru ac yn y rheng flaen. Mae shifft 8 awr i blismon cyfoes yn golygu amrywiaeth o weithgarwch. O ddelio gyda bygythiadau ar wefannau cymdeithasol i dywys meddwyn gartref; efallai nad hwn yw deunydd y sioe blismyn arferol ond yn bendant dyw e ddim yn ddiflas. Rhannodd Boom Cymru nifer o shifftiau gyda gwyr a gwragedd yr heddlu yn cadw trefn ar strydoedd Abertawe a dal realiti gwaith yr heddlu yn y ddogfen pry–ar-y-wal yma ar gyfer S4C.
999: Y Glas
Ffeithiol