Mae Boom Cymru wedi derbyn 7 enwebiad yng ngwobrau BAFTA Cymru 2015.

Mae Y Streic a Fi wedi derbyn enwebiad yn yr adran Drama Deledu. Enwebwyd Ashley Way ar gyfer Cyfarwyddwr Ffuglen ar yr un cynhyrchiad, a Gwyneth Lewis fel Awdur.

Enwebwyd Owen Sheers fel Cyflwynydd am Dylan Thomas: A Poet’s Guide.

Yn yr adran Colur a Gwallt, enwebwyd Juliet Ireland am Caryl a’r Lleill.

Yn yr adran Chwaraeon a Darllediad Allanol Byw, enwebwyd Y Sioe.

Mae ‘#Fi’ (Boom Plant / Eleri Tinnuche) wedi enwebu yn yr adran Rhaglen Blant (yn cynnwys animeiddio).

Mae’r rhestr gyflawn o enwebiadau ar gael yma.