Mae Wynne wedi creu côr o weithwyr o dri o gwmniau mwyaf Cymru: Dŵr Cymru, Trenau Arriva Cymru, ac Edwards Coaches. Fel rhan o’r gyfres mae’r côr wedi recordio can newydd sbon gyda Wynne, ‘Cân heb ei Chanu’. Mae’r gân ar gael i’w brynu o itunes o ddydd Llun 14eg Rhagfyr 2015. Mi fydd yr arian yn mynd at elusen Tenvous, elusen mae Wynne yn noddwr ohonno. Plis lledaenwch/rhanwch y neges! Mi fydd y sengl yn cael ei lawnsio ar rhaglen Shan Cothi ar Radio Cymru a rhaglen Eleri Sion ar Radio Wales ar y dydd Llun. Mi fydd y gan yn ar rhestr chwarae Radio Cymru a Radio Wales.

Gwefan Wynne Evans ar Waith