35 Diwrnod, cyfres ddrama iasoer wyth pennod wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ymlaen nos Sul am 9 o’r gloch ar S4C.

Wedi’i leoli mewn swyddfa cwmni ymchwilio twyll yswiriant, mae’r gyfres yn ein tywys yn ôl 35 diwrnod cyn marwolaeth Simon Jones. Mae straeon y cymeriadau unigol yn clymu a’i gilydd, gan ddatgelu cyfrinachau tywyll…