Mae ‘Copa – Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle’ wedi cael ei dewis i’w dangos yng Ngŵyl Ffilmiau Mynydd Llanberis (LLAMFF) eleni. Mae’r ffilm wedi cael ei chynnwys yng nghategori Dringo a Mynydda.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal y penwythnos hwn gydag enillydd pob categori, ac eithrio Dewis y Bobl, yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn y 5ed o Fawrth.

Mae LLAMFF yn ceisio cefnogi achub mynydd, annog pobl o bob oed, hil, rhyw, gallu ac anallu corfforol i gymryd rhan mewn pob math o chwaraeon awyr agored, gan gynnig llwyfan ar gyfer gwneuthurwyr ffilm addawol a chreu cronfa grant ar gyfer gwneuthurwyr ffilm ac anturiaethwyr.

Gallwch ddysgu mwy yma: www.llamff.co.uk/events/.