Mae Copa – Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Gwyliau Efrog Newydd: Goreuon Teledu a Ffilm y Byd.

Dethlir rhaglennu o dros 50 o wledydd yng ngwobrau Goreuon Teledu a Ffilm y Byd, gyda Copa (S4C) yn cynrychioli Cymru yn y categori Chwaraeon a Hamdden.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn Sioe NAB yn Las Vegas fis Ebrill eleni.