Eric Jones ac Ioan Doyle wedi ei dewis ar gyfer dangosiad yng ngŵyl Ffilm Antur Sheffield 2016.

Mae Copa, darlledwyd ar S4C, yn dathlu perthynas dau ddyn, dwy wlad ac un siwrnai – ac yn gyfle’r dringwr byd enwog Eric Jones ddatgelu atgofion a hanesion ei fywyd anturus. Darlledwyd y rhaglen fel rhan o ddathliadau 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal o Ddydd Gwener 11eg tan Ddydd Sul 13eg o Fawrth, gyda mwy na 100 o’r ffilmiau antur, teithio a chwaraeon eithafol gorau yn cael eu dewis ar gyfer dangosiad ar y sgrin fawr bob blwyddyn.