Tag yw’r rhaglen gylchgrawn sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant pobl ifanc, sydd wedi cynyddu i ddau rifyn bob wythnos ar ddydd Mawrth a dydd Gwener. Mae’n llawn o eitemau difyr a swmpus am ddiddordebau, problemau a gweithgareddau pobl ifanc. Yn ogystal bydd Tag Ar-Lein (rhwng 6.00 – 6.15 yn fyw) yn cynnwys deunydd egsliwsif a chyfle i ryngweithio a chystadlu’n fyw.