Mae Bafta wedi cyhoeddi’r enwebiadau am ei gwobrau Plant, sy’n dathlu’r gorau ym myd y cyfryngau i blant. Mae Boom Plant wedi derbyn dau enwebiad – mae Ludus wedi ei enwebu yn y categori Rhyngweithiol Orau (Addasiad) ac mae Cyw a’r Wyddor yn cystadlu yn y categori Addysg Gynradd. Hefyd mae gwasanaeth meithrin S4C, Cyw yn cystadlu am Sianel y Flwyddyn.

Cynhelir y seremoni yn y Roundhouse, Llundain ar nos Sul 23ain o Dachwedd gyda Doc Brown wrth y llyw.