Mae Boom Cymru wedi derbyn 8 enwebiad yng ngwobrau BAFTA Cymru 2018.

Enwebwyd Charlotte Church fel Cyflwynydd orau am y rhaglen Charlotte Church – Inside My Brain, sydd hefyd yn cystadlu am y Rhaglen Ddogfen orau.

Mae Only Men Aloud yn Bollywood a’r Salon wedi eu henwebu yn y categori adloniant, a chyfres Cerys Matthews, y Goeden Faled yn derbyn enwebiad am y gyfres Ffeithiol orau.

Mae Cic wedi ei enwebu yn y categori Rhaglen Blant, y gyfres olaf un o Parch am y ddrama deledu orau ac mae’r ap Byd Cyw gan Thud Media wedi derbyn enwebiad am y Gêm orau.

Mae’r rhestr gyflawn o enwebiadau ar gael ar wefan bafta.