Mae Boom Cymru wedi derbyn 4 enwebiad ar gyfer Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2019.

Enwebwyd O’r Diwedd am y rhaglen gomedi orau, Bry – Cwpan y Byd yn y categori Ffurf Fer, a Mabinogi-ogi a Prosiect Z yn y categori Rhaglen Blant.
Llongyfarchiadau i bawb a weithiodd ar y cynhyrchiadau.

Mae rhestr gyflawn o enwebiadau ar gael ar wefan yr Wŷl http://www.celticmediafestival.co.uk/nominees a chynhelir y digwyddiad yn Aviemore rhwng 4 – 6 Mehefin 2019.