Mae Boom Cymru wedi derbyn tri enwebiad ar gyfer Gwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd, 2018. Mae’r ffilm Nadolig, ‘Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs’ wedi ei enwebu am wobr Drama Sengl, ‘Salon’ am wobr Adloniant, ac ‘Only Men Aloud yn Bollywood’ am wobr Adloniant Ffeithiol.

Mae’r Ŵyl yn hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau gwledydd Celtaidd yn y cyfryngau ac yn cael ei chynnal yn Llanelli ar ddechrau mis Mai.

Dyma restr llawn o’r enwebiadau http://www.celticmediafestival.co.uk/nominees