Yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol ffyniannus a diogel i’r iaith, roedd yn bleser gan Boom Cymru groesawu Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ar ymweliad i’w canolfan rhaglenni plant, Boom Plant, yng Nghaerdydd, lle mae gwasanaethau Cyw a Stwnsh ar gyfer S4C yn cael eu cynhyrchu. Mae Boom yn falch iawn o gael ei dewis fel esiampl dda o weithle lle mae’r staff yn defnyddio’r iaith Gymraeg fel cyfrwng naturiol i gyfathrebu.

Bu Carwyn Jones yn trydar yn ddiweddarach: “Ymweliad gwych i Boom Cymru. Mae’r cwmni yn neud gwaith da i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith staff a’r cyhoedd.”