Mae ail gyfres o 5 Star Family Reunion wedi cael ei chomisiynnu gan BBC One wedi cyfres gyntaf lwyddiannus.

Mae’r cwis 8 x 60’, sydd yn aduno teuluoedd sydd wedi eu gwahanu gan amser a phellter, yn cael ei gyflwyno gan Nick Knowles, ac yn gyd-gynhyrchiad gyda 12 Yard (Glasgow) a Boom Cymru (Caerdydd).

Bydd yr ail gyfres yn cael ei chynhyrchu yn yr Alban ac i’w weld ar y sgrin yn 2016. Yr Uwch Gynhyrchwyr yw Zoe Tait, Michael Mannes a Ronw Protheroe.