Mae Teledu Apollo wedi ennill gwobr Bafta Cymru.

Drama ddirgelwch wedi ei gwrthdroi ydy 35 Diwrnod, sy’n rhoi’r gwyliwr yng ngofal yr ymchwiliad i’r digwyddiadau a arweiniodd at lofruddiaeth. Wrth i bob diwrnod fynd heibio, ymddengys craciau tu ôl i ddrysau caeedig trigolion ystad Crud yr Awel, sy’n ymddangos yn ddi-fai cyn cael eu hennyn gan wraig ieuanc llawn dirgelwch a ddaeth i fyw i’w mysg. Datgelir manylion ei llofruddiaeth a’r llofrudd yn ystod munudau cloi’r bennod olaf.

Cynhyrchwyd y gyfres gan Teledu Apollo, sy’n rhan o Boom Cymru.

Mae rhestr gyflawn o enillwyr ar gael : http://bit.ly/1pKozf6