Cipiodd ffilm Boom Cymru, Copa: Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle, wobr Calon Antur Cymraeg yng Ngŵyl Ffilmiau Mynydd Llanberis (LLAMFF) 2016 .
Mae’r ffilm, a ddarlledwyd ar S4C, yn dathlu perthynas dau ddyn, dwy wlad ac un siwrnai – yn destament i fywyd anturus ac unigryw’r dringwr Eric Jones o Dremadog. Fe’i cynhyrchwyd i gyd-fynd â dathliadau 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Mae LLAMFF yn ceisio cefnogi achub mynydd, annog pobl o bob oed, hil, rhyw, gallu ac anallu corfforol i gymryd rhan mewn pob math o chwaraeon awyr agored, gan gynnig llwyfan ar gyfer gwneuthurwyr ffilm addawol a chreu cronfa grant ar gyfer gwneuthurwyr ffilm ac anturiaethwyr.
Eleni fe ariannodd LLAMFF ysgoloriaeth ar gyfer anturiaethwyr ieuainc yng Nghymru a chasglu arian tuag at Tîm Achub Mynydd Llanberis a Climber Against Cancer.