Mae Sbarc yn gyfres wyddonol sydd yn ateb pob math o gwestiynau sydd gan blant oedran darged Awr Fawr Cyw (6 – 8 mlwydd oed). Mae pob pennod yn canolbwyntio ar un thema. Sbarc, y gwyddonydd, (Tudur Phillips) sy’n gosod y thema ac yn ymdrechu i ddod o hyd i’r atebion am y byd o’n cwmpas, anifeiliaid, y corff a byd natur.