Ffilm bwerus a theimladwy a awdurwyd gan yr efeilliaid Catherine a Kirstie Fields o Lanelli, sy’n dioddef o Gyflwr Fields. Wrth nesu at eu penblwydd yn 18 oed, fe gawsant offer i’w cynorthwyo i gyfathrebu eu meddyliau a’u hofnau am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Mae’r ffilm hon am eu dewrder rhyfeddol, eu hiwmor a’u cariad at ei gilydd, ac yn eu geiriau eu hunain. Mae Fy Chware a Fi wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol pwysig – gwobr Cynrychiolaeth Anabledd Orau ar Sgrîn yng ngwobrwyon Creative Diversity Network; Enwebiad RTS am y rhaglen ddogfen orau; Medal Aur yng Ngwyl Ffilm a Theledu Efrog Newydd, a rhaglen ddogfen orau yng Ngwyl y Cyfryngau Celtaidd.