Rhaglen ddogfen ddadlennol am un o artistiaid mwyaf llwyddiannus siartiau sengl y DU yn y 1980au. Mae Shakin Stevens yn dal yr anrhydedd o fod yr artist mwyaf llwyddiannus yn siartiau sengl y DU yn yr 80au (gan guro Michael Jackson, Duran Duran a Madonna); anrhydedd mae’n ei rannu gyda’r Beatles (1960au) ac Elton John (1970au). Cafodd lwyddiant yn y siartiau gyda dim llai na 30 cân yn y 30 uchaf mewn 10 mlynedd, a hyd heddiw mae wedi bod yn siartiau’r DU am bron i 9 mlynedd. Er gwaethaf y llwyddiannau anhygoel yn y DU ac yn rhyngwladol, ni chafodd yr un rhaglen ddogfen ar ei fywyd ei chynhyrchu. Mae’r rhaglen hon yn adrodd ei hanes am y tro cyntaf ac yn dangos ei ddatblygiad i bennod newydd yn ei yrfa hynod.