Mae Boom Cymru yn parchu preifatrwydd pob unigolyn sydd yn rhannu gwybodaeth gyda ni. Mae eich data yn bwysig iawn a byddwn yn edrych ar ôl eich gwybodaeth yn ofalus yn unol â deddfau diogelu data a phreifatrwydd. Mae’r Datganiad Preifatrwydd hwn yn amlinellu’r wybodaeth y bydd Boom Cymru yn ei chasglu a’r ffordd y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno. Mae’r Datganiad hwn yn rhoi cyfarwyddyd i chi hefyd ynghylch beth i’w wneud os nad ydych eisiau i’ch gwybodaeth bersonol gael ei chasglu na’i rhannu.
2. Gwybodaeth Bersonol
Bydd Boom Cymru ond yn casglu Gwybodaeth Bersonol (gwybodaeth lle gellir eich adnabod yn bersonol) os ydych yn ei rhoi i ni o’ch gwirfodd. Bydd Boom Cymru bob amser yn dweud wrthych pam yr ydym yn casglu eich gwybodaeth mewn ffordd sydd yn glir ac yn hawdd i’w deall, naill ai wrth gasglu’r wybodaeth neu drwy’r Polisi Preifatrwydd hwn.
Byddwn yn dweud wrthych ba wybodaeth sydd gennym amdanoch chi os ydych yn gofyn i ni amdani. Byddwn hefyd yn dweud wrthych sut y gallwch ofyn i ni ddileu, diweddaru neu gywiro unrhyw ddata amdanoch chi.
3. Enghreifftiau o’r wybodaeth a gesglir gan Boom Cymru
Y math o wybodaeth bersonol a manylion cyswllt a gesglir gennych chi yw eich enw, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni a rhyw. Bydd y data yma’n cael ei anfon atom pan fyddwch yn rhyngweithio, er enghraifft pan fyddwch yn cystadlu ar gyfer cystadleuaeth, yn cyflwyno Cynnwys Wedi ei Greu gan Ddefnyddiwr neu’n pleidleisio yn un o’n polau piniwn.
Os ydych o dan 16 oed, mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan eich rhiant neu warchodwr pryd bynnag y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni.
4. Mynediad i’ch Data
Deddf Diogelu Data 2018, Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig 2003 a 2011 yw’r prif ddeddfau sydd wedi eu sefydlu yn y DU i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol a’ch preifatrwydd yn cael eu diogelu
Chi sy’n rheoli sut mae Boom Cymru’n defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu. Byddai enghreifftiau o’r ffordd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth yn cynnwys gweinyddu’r wobr os ydych yn enillydd gwobr a chyhoeddi neu ddarparu rhestr o enillwyr gwobrau. Anaml iawn y byddwn yn anfon unrhyw wybodaeth farchnata a byddwn ond yn cysylltu â chi os byddwch yn rhoi caniatâd (ee trwy ddewis cymryd rhan) i dderbyn negeseuon o’r fath.
Gellir ymarfer eich hawl i gael mynediad yn unol â’r Deddfau hyn. Ar unrhyw adeg, gallwch wneud cais yn amodol ar ffi o £10 i dalu ein costau yn darparu manylion y wybodaeth sydd gennym amdanoch chi:
• Gofyn i ni ddileu eich Gwybodaeth Bersonol o’n cofnodion
• Gofyn i’ch Gwybodaeth Bersonol gael ei chywiro neu ei diweddaru
• Gofyn i weld copi o’ch gwybodaeth bersonol
5. Gwybodaeth Arall (amhersonol) a Gesglir yn Awtomatig
Ar adegau, gall Boom Cymru gasglu gwybodaeth amdanoch chi le na ellir eich adnabod yn bersonol. Mae enghreifftiau o’r math yma o wybodaeth yn cynnwys y math o Borwr Rhyngrwyd yr ydych yn ei ddefnyddio, y math o system gweithredu cyfrifiadur yr ydych yn ei defnyddio ac enw parth y wefan y gwnaethoch gysylltu oddi wrthi i’n gwefan ni.
6. Newidiadau i’n Busnes
Os penderfynwn newid neu ailstrwythuro ein busnes efallai y bydd angen i ni drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i un o’n cwmnïau grŵp fel y gallwn barhau i ddarparu nwyddau a gwasanaethau i chi yn effeithiol.
Hefyd, os ydym yn dod yn rhan o uno, caffael, ailstrwythuro, ad-drefnu neu drefniant arall sy’n cynnwys gwerthu rhai neu bob un o asedau ein cwmnïau grŵp, yna gellir cynnwys eich gwybodaeth yn yr asedau sy’n cael eu trosglwyddo i’r perchennog newydd a gall cael eu darparu i endidau ac ymgynghorwyr. Gallai’r trefniant gynnwys ni: (i) cadw’r hawl i barhau i ddefnyddio gwybodaeth bersonol wedi’i throsglwyddo yn ychwanegol at hawl y perchennog newydd i ddefnyddio gwybodaeth o’r fath; a (ii) ymgymryd â throsglwyddiadau ychwanegol o wybodaeth bersonol (gan gynnwys gwybodaeth bersonol newydd) gyda’r perchennog newydd o bryd i’w gilydd yn dilyn trefniant o’r fath.
Os bydd newidiadau i’n busnes (fel ad-drefnu neu ailstrwythuro), bydd eich gwybodaeth bersonol yn parhau i fod yn destun yr hysbysiad preifatrwydd hwn (fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd). Fodd bynnag, pan drosglwyddir eich gwybodaeth bersonol i berchennog newydd yn dilyn uno neu gaffaeliad, gall fod yn destun rhybudd preifatrwydd gwahanol. Byddwn ni, neu’r perchennog newydd, yn rhoi rhybudd i chi cyn i unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol ddod yn destun rhybudd preifatrwydd gwahanol.
7. Cwcis – h.y. Gwybodaeth y Gallwn ei Rhoi yn Awtomatig ar Yriant Caled eich Cyfrifiadur
Pan fyddwch yn edrych ar un o’n gwefannau, efallai y byddwn yn storio rhywfaint o wybodaeth ar eich cyfrifiadur. Bydd y wybodaeth hon ar ffurf “Cwci” neu ffeil debyg a bydd yn ein helpu mewn nifer o ffyrdd. Mae Cwcis yn ein galluogi i deilwra gwefan neu hysbyseb i gyd-fynd â’ch diddordeb neu hoffterau yn well. Gyda’r rhan fwyaf o Borwyr Rhyngrwyd, gallwch ddileu Cwcis o gof parhaol eich cyfrifiadur, rhwystro pob Cwci, neu dderbyn rhybudd cyn bod Cwci’n cael ei storio. Gweler cyfarwyddiadau eich Porwr i ddysgu mwy am y swyddogaethau hyn.
8. Diogelwch a Throsglwyddo Gwybodaeth
Bydd eich gwybodaeth lle gellir eich adnabod yn bersonol yn cael ei storio yn ein cronfeydd data a leolir yn y Deyrnas Unedig. Ni fydd Boom Cymru yn gwerthu eich gwybodaeth i unrhyw un arall. Byddwn ond yn trosglwyddo eich gwybodaeth i sefydliad gwahanol (Darlledwr) gyda’ch caniatâd.
Mae Boom Cymru wedi ymrwymo i gadw’r data yr ydych yn ei roi i ni yn ddiogel a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eich gwybodaeth lle gellir eich adnabod yn bersonol rhag mynd ar goll, cael ei chamddefnyddio neu gael ei newid.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth cyhyd â phosibl at y diben y’i chasglwyd yn wreiddiol ac am ei fod yn gyfreithiol i ni ei chadw.
Efallai byddwn yn diweddaru’r polisi preifatrwydd a chwcis hyn o bryd i’w gilydd a byddwn yn postio unrhyw newidiadau ar ein gwefan www.Boomcymru.cymru.