Lleoliad: Caerdydd

Cyflog: Yn dibynnu ar brofiad

Adrodd i: Pennaeth Digidol

Mae Boom Cymru, un o gwmnïau cynhyrchu teledu a chyfryngau digidol blaenllaw Cymru, yn chwilio

am Reolwr Cyfryngau Cymdeithasol a Chyfathrebu dawnus a brwdfrydig i ymuno â’n tîm. Wedi’n lleoli

yn Nghaerdydd, rydym yn creu cynnwys sydd wedi ennill gwobrau ar draws drama, adloniant,

rhaglenni ffeithiol a rhaglenni plant i ddarlledwyr a llwyfannau digidol ledled y DU a thu hwnt.

Ynglŷn â’r Swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig i arwain ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ac i

reoli ein strategaeth gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg. Byddwch yn chwarae rhan hollbwysig wrth

lunio wyneb cyhoeddus Boom Cymru, ymgysylltu â chynulleidfaoedd, hyrwyddo ein cynyrchiadau

amrywiol, a chryfhau ein brand ar draws sawl llwyfan.

Prif Gyfrifoldebau

Cynorthwyo gyda rheoli ac amserlennu postiadau ar draws llwyfannau cymdeithasol (Instagram,

LinkedIn, X, Facebook, TikTok) i gynyddu ymgysylltiad ac ehangu cyrhaeddiad.

● Creu cynnwys ysgrifenedig, gweledol a fideo ar gyfer llwyfannau gwahanol.

● Cefnogi datblygiad a chyflwyno ymgyrchoedd digidol ar gyfer prosiectau teledu a chyfryngau

cymdeithasol a chyhoeddiadau’r cwmni.

● Arwain ar ysgrifennu datganiadau i’r wasg, cylchlythyrau, diweddariadau gwefan a chyfathrebiadau

mewnol.

● Monitro’r cyfryngau cymdeithasol a sylw’r wasg, gan baratoi adroddiadau perfformiad rheolaidd.

● Cefnogi’r berthynas gyda darlledwyr.

● Cadw’n wybodus am dueddiadau cyfryngau cymdeithasol, diweddariadau llwyfannau a

datblygiadau’r diwydiant.

Prif Sgiliau a Phrofiad

Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn y ddwy

iaith.

● Profiad cadarn o reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu o fewn amgylchedd creadigol,

cyfryngol neu adloniant.

● Sgiliau cryf mewn ysgrifennu copi, adrodd straeon a chreu cynnwys.

● Profiad o ddefnyddio offer rheoli ac ystadegau cyfryngau cymdeithasol.

● Gallu i weithio dan bwysau, gan reoli sawl prosiect a therfynau amser gyda sylw cryf i fanylion.

● Dawn greadigol, angerdd dros arloesi digidol a greddf da am gynnwys ymgysylltiol.

● Dealltwriaeth dda o reoli brand a datblygu cynulleidfaoedd.

Ymgeisiwch drwy yrru CV a llythyr atodol yn amlinellu eich profiad at hr@boomcymru.co.uk

erbyn 5yh, Dydd Llun y 25ain o Orffennaf.

Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb

gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl

weithgareddau.

Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â

Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom (https://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).

Gwnewch gais am y swydd hon

Allowed Type(s): .pdf, .doc, .docx