Caerdydd

Rôl Barhaol

Mae Grŵp Boom yn chwilio am Bennaeth Cynhyrchu rhagorol i ymuno â’i dîm dawnus o gynhyrchwyr rhaglenni a chynnwys.

Ynglŷn â Boom:

Boom yw un o grwpiau cynhyrchu mwyaf Cymru ac mae’n gwmni aml-genre uchel ei barch sy’n cynhyrchu dros 400 awr o gynnwys yn flynyddol ar gyfer amryw ddarlledwyr, yn cynnwys S4C, BBC, ITV, C4, C5 ac UKTV. Trwy ei adrannau cynhyrchu teledu a digidol – Boom Cymru, Boom, Boom Social a Boom Plant – mae gan Grŵp Boom brofiad sylweddol o gynhyrchu cynnwys ffeithiol, ffeithiol-adloniannol, adloniant, drama a chynnwys plant. Mae ei gynyrchiadau’n nodweddiadol trwy ymrwymiad i adrodd straeon eithriadol a’r gwerthoedd cynhyrchu uchaf.

Yn rhan o ITV Studios, mae Grŵp Boom yn cyflogi tua 150 o staff yng Nghymru ac mae’n cynnwys cwmni adnoddau ôl-gynhyrchu a VFX blaenllaw, Gorilla a chwmni graffeg symudol BAIT Studio.

Y Rôl:

Mae’r rôl hon yn gofyn am allu i sefydlu timau cynhyrchu llwyddiannus, eu meithrin a’u cefnogi trwy gydol y broses gynhyrchu ac ôl-gynhyrchu. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y wybodaeth a’r profiad angenrheidiol i ddyfeisio cynlluniau cynhyrchu ar gyfer cynnwys Boom ar draws amrywiaeth o genres ar gyfer darlledwyr a llwyfannau niferus. Mae rheoli costau, rheolaeth o lifau gwaith cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu a sgiliau arwain a rhyngbersonol rhagorol yn hanfodol i’r rôl amlwg hon.

Wedi’i lleoli yn swyddfeydd Boom ym Mae Caerdydd, bydd angen y canlynol ar gyfer y swydd:

  • Profiad rheoli cynhyrchu eang ar draws sawl genre a llwyfan digidol.
  • Profiad o greu a rheoli cyllidebau a gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd.
  • Sgiliau negodi cryf a theg.
  • Y gallu i ddyfeisio dulliau cynhyrchu arloesol a sicrhau gwerth am arian.
  • Profiad o ddarparu adnoddau a rheoli timau cynhyrchu a chefnogi personél ar draws y cwmni.
  • Sgiliau cyfathrebu ac arwain cynhwysol a chadarn.
  • Gwybodaeth fanwl am gydymffurfiaeth rhaglenni, contractau, lles, dyletswydd gofal ac iechyd a diogelwch.
  • Y gallu a’r profiad i gyfrannu at reolaeth ehangach cwmni mawr o ddydd i ddydd.
  • Llygad am fanylyn, diplomyddiaeth a phositifrwydd.
  • Y gallu i ddirprwyo’n llwyddiannus.
  • Ymrwymiad i feithrin diwylliant gweithle cadarnhaol, amrywiol a chynhwysol.

Byddai’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.

I gael disgrifiad swydd manwl, cysylltwch â HR@boomcymru.co.uk.

Os hoffech wneud cais, anfonwch eich manylion gyda CV a llythyr eglurhaol yn esbonio pam eich bod yn addas i’r swydd hon at HR@boomcymru.co.uk.

Dyddiad cau 5yh, 18fed Medi 2024.

Gwnewch gais am y swydd hon

Allowed Type(s): .pdf, .doc, .docx