Mae Boom Cymru yn chwilio am aelodau tîm cynhyrchu profiadol a brwdfrydig ar gyfer amrywiaeth o brosiectau sydd ar y gweill dros y 12 mis nesaf, gyda rhai swyddi i ddechrau ar unwaith.
Y swyddi sydd ar gael:
- Cydlynydd Cynhyrchu
- Is- Rheolwr Cynhyrchu
- Rheolwr Cynhyrchu
Amdanoch chi:
- Brwdfrydig, rhagweithiol a threfnus iawn
- Sgiliau cyfathrebu cryf
- Profiad cynhyrchu perthnasol yn eich maes
- Yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio’n dda o dan bwysau
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi.
Ymgeisiwch drwy yrru CV a llythyr atodol byr, gan nodi eich argaeledd at hr@boomcymru.co.uk . Nodwch y swydd berthnasol ym mhenawd yr ebost.
Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.
Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom (https://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).