Medru Hansh
Eisiau creu cynnwys arlein a chael dy dalu am y gwaith?
Mae Medru Hansh yn chwilio am griw o bobl anabl ifanc brwdfrydig sydd eisiau dysgu sut i greu cynnwys.
Yn ystod mis Mawrth ag Ebrill byddwn yn cynnal cyrsiau creu cynnwys i bawb, be bynnag yw dy nam neu gyflwr iechyd. Yna byddwn yn cyd weithio i ddatblygu’r syniadau cyn rhannu’r cynnwys gyda miloedd ar Hansh.
Be bynnag yw dy faes, sgriptio, golygu, cyflwyno, camera mae Prosiect Medru Hansh yma i dy gefnogi!
Llenwa’r ffurflen a bydd y Tîm Cynhyrchu mewn cysylltiad yn fuan.
Llenwa’r ffurflen er mwyn dangos dy ddiddordeb yn y prosiect
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob sector o’r gymuned. Bydd Boom Cymru yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â pholisi preifatrwydd y cwmni https://bit.ly/3iZlWIa.