Am fod yn rhan o raglen arbennig Priodas Pymtheg Mil?

Mae Priodas Pymtheg Mil yn gyfle unigryw i gwpwl lwcus dderbyn priodas sydd tu hwnt i’w cyrraedd.

Oes gennych chi deulu sy’n byw ar ochr arall y byd ac eisiau dod â phawb ynghyd i’r diwrnod mawr?

Oes thema neu leoliad sy’n golygu rhywbeth arbennig i chi?

Neu ydych chi eisiau enwebu pâr haeddiannol a helpu creu diwrnod priodas arbennig iddynt? 

 

Mae’r ffurflen ymgeisio wedi cau

 

Rheolau Cystadlu yn Priodas Pymtheg Mil 

Mae’r amodau a thelerau yn ymwneud ag ymddangos yn y rhaglen deledu Priodas Pymtheg Mil (y Rhaglen) a chynhyrchwyd gan Boom Cymru  (y Cwmni) ar gyfer S4C.  Trwy ymgeisio a chymryd rhan yn y Rhaglen rydych chi (yr Ymgeiswyr) yn cytuno i fod yn gaeth i’r rheolau.

1. Mae’r Rhaglen yn rhaglen arbennig o gyfres adloniadol Priodas Pum Mil.  Yn y rhaglen bydd y cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Ellis Morris yn ymuno â theulu a ffrindiau pâr i drefnu priodas neu bendith priodas am £15,000. 

2. Os nad oes trwydded gan y lleoliad i gynnal priodas, bydd yn ofynnol i’r pâr briodi ymlaen llaw a chael bendith briodas.

3. Er mwyn ennill y wobr o briodas neu bendith priodas bydd rhaid i’r pâr priodasol lenwi ffurflen gais ac anfon llun ohonynt erbyn 5pm ar y dyddiad cau 28ain Mawrth 2024.

4. Bydd y Cwmni yn dewis rhestr fer.  

5. Bydd y Cwmni yn creu fideo byr o bob pâr ar y rhestr fer i’w  dangos ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C gyda’r cyhoedd yn pleidleisio am ei hoff bâr ar wefan www.priodas.cymru o’r 7fed Mehefin 2024 tan 21ain Mehefin 2024.

6. Bydd enwau y pâr buddugol yn cael eu cyhoeddi ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C ac ar wefan www.priodas.cymru wedi i’r cyfnod pledleisio ddod i ben.

7. Y pâr gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau bydd yn ennill, ac yn cymryd rhan yn y Rhaglen.  

8. Bydd y briodas yn cael ei chynnal yn ystod Hydref  / Gaeaf 2024 a’i darlledu yn ystod cyfnod y Nadolig 2024.

9. Mae’r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig, ac eithrio staff S4C, y Cwmni, (neu gwmni cysylltiol), eu teulu agosaf a chwmnïau sydd â chyswllt uniongyrchol gyda chynhyrchu’r Rhaglen.

10. Rhaid i’r Ymgeiswyr bod dros 18 mlwydd oed. 

11. Trwy gystadlu yn y Rhaglen, mae’r Ymgeiswyr yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth a ddarparwyd i’r Cwmni ac S4C yn gywir; 

12. Rydych yn cytuno i fod ar gael ar y dyddiad(au) a chytunir gyda’r Ymgeiswyr o flaen llaw ar gyfer ffilmio’r Rhaglen. 

13. Os eich dewisir i gystadlu yn y Rhaglen, rydych yn cytuno i arwyddo Cytundeb Cyfraniad.

14. Bydd penderfyniad y Cwmni / S4C ynghylch â’r enillydd yn derfynol, ac ni ymgymrir ac unrhyw ohebiaeth. 

15. Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo’r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.

16. Mae’r Cwmni ac S4C yn cadw’r hawl i anghymwyso’r Ymgeiswyr neu gymryd yn ôl unrhyw wobr, os bydd sail resymol gan y Cwmni neu S4C dros gredu bod yr Ymgeiswyr wedi:

16.1 torri unrhyw rai o’r amodau a thelerau hyn 

16.2 wedi darparu gwybodaeth sydd yn anghywir, anghyflawn neu’n gamarweiniol 

16.3 wedi gwrthod dilyn neu anwybyddu cyfarwyddiadau rhesymol y Cwmni parthed eu hymddangosiad yn y Rhaglen 

16.4 bod ymddygiad yr Ymgeiswyr (boed nawr neu yn y gorffennol) yn niweidiol i’r Rhaglen, y Cwmni neu S4C.

17. Mae’r Ymgeiswyr yn cytuno y gall y Cwmni ac S4C ddefnyddio eu henwau a lluniau at ddibenion hyrwyddo mewn unrhyw gyfrwng am byth yn ddigyfyngiad.

18. Mae’r Cwmni ac S4C yn cadw’r hawl i ddiwygio’r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio’r Rhaglen neu’r dyddiadau ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i’w rheolaeth.

19. Mae’r Cwmni ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i’r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan yr Ymgeiswyr, sy’n codi o’r ffaith ei fod ef neu hi wedi cystadlu yn y Rhaglen hon. 

20. Ar wahân at ddibenion gweinyddu a hyrwyddo’r Rhaglen ni fydd y Cwmni yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr Ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o’r fath at unrhyw ddibenion eraill. Bydd y Cwmni yn dinistrio’r holl ddata personol y mae’n meddu arno, ac a gafodd fel rhan o’r ceisiadau ar gyfer y Rhaglen, 18 mis ar ôl i gyfnod cynhyrchu’r Rhaglen ddod i ben.

21. Mae’r wybodaeth mae’r Ymgeiswyr yn darparu i’r Cwmni yn cael ei gasglu a’i brosesu yn unol â deddfau Rheoli Data a Hysbysiad Preifatrwydd y Cwmni sydd ar gael ar ein gwefan:    www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd/   ynghyd â pholisi preifatrwydd S4C www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/16717/polisi-preifatrwydd. 

22. Ni ellir derbyn prawf o bostio ar y we fel prawf o ddanfon.  Nid yw’r Cwmni na S4C yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall, hepgoriad, toriad, dilead, nam nac oedi yn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddiwyd gan Ymgeiswyr, ceisiadau nad ydynt wedi’u derbyn cyn y dyddiad cau nac am ladrad, dinistriad, newid neu fynediad anawdurdodedig i geisiadau, neu geisiadau a gollwyd, a niweidiwyd neu oedi yn sgil gweithrediadau gweinydd, materion technegol, feirws, nam cyfrifiadurol neu achosion eraill y tu hwnt i reolaeth y Cwmni ac S4C.

23. Nid yw’r Cwmni na S4C yn derbyn cyfrifoldeb am ddiogelu na dychwelyd unrhyw geisiadau. Cyfrifoldeb yr Ymgeiswyr yw hi i gadw copi o’r cais ar gyfer cofnodion personol.

24. Nid yw’r Cwmni na S4C yn gyfrifol am unrhyw faterion technegol yn ymwneud ag unrhyw rwydwaith telegyfathrebu neu ryngrwyd (gan gynnwys mewn perthynas â chyflymder neu led band), gan gynnwys unrhyw anaf neu ddifrod i ddyfais yr Ymgeiswyr neu ddyfais unrhyw berson arall yn ymwneud â neu yn sgil cymryd rhan neu lawrlwytho unrhyw ddeunydd i’r cystadleuaeth.

25. Ni fydd y Cwmni neu S4C o dan unrhyw orfodaeth i gynhyrchu neu ddarlledu’r Rhaglen.

26. Mae’r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

27. Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Boom Cymru ar 02922 450 000 neu Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

Rhif ffôn Boom Cymru: 02922 450 000

Dyddiad Cau Ceisiadau : 28/03/24 am 17.00

Ni fydd unrhyw geisiadau a dderbynir wedi’r dyddiad cau yn cael eu hystyried ar gyfer y rhaglen hon.