Y Stiwdios
Mae’n hadnoddau o fewn yr un adeilad, sef dwy stiwdio ar wahân, a galeri ddarlledu ganolog, sydd wedi eu cynllunio ar gyfer darlledu byw a rhaglenni sydd wedi’u recordio ymlaen llaw.
Stiwdio 1
Stiwdio HD – 1100 troedfedd sgwâr
Stiwdio 2
Yn ogystal, mae gan Boom adran adnoddau offer ffilmio o’r enw Zoom, sydd yn darparu amrywiaeth o gamerâu, offer sain a goleuo i’w llogi, ar gyfer gwaith stiwdio, PSC a ffilmio rig sefydlog.
Mae ein swyddfeydd yn Gloworks yn cael eu rhannu gyda Gorilla, cwmni ôl-gynhyrchu mwyaf Cymru, sy’n arbenigo mewn gwaith teledu a ffilm.
Mae ganddynt dros 60 o ystafelloedd Avid, adnoddau graddio Baselight a stiwdios dybio Pro Tools gydag ADR/VO, ac maen nhw’n arwain y ffordd ym myd technoleg. Yn fwyaf diweddar, maen nhw wedi gosod yr adnodd HDR Dolby Vision â system IMF QC Netflix cyntaf yng Nghymru.
Mae portffolio eang Gorilla yn cynnwys rhaglenni chwaraeon, drama, adloniant a ffeithiol ar gyfer rhai o ddarlledwyr mwyaf y DU.