Mae Boom Social yn chwilio am Grëwr Cynnwys Digidol i ymuno â thîm cynhyrchu platfform digidol S4C – Hansh. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd ymchwilio, darganfod talent newydd a datblygu a chreu cynnwys ffurf fer i TikTok ac Instagram.

Bydd gan yr ymgeisydd ddealltwriaeth gref o greu cynnwys ar gyfer rhwydweithiau cymdeithasol fel, TikTok, Facebook, Youtube, Instagram ayyb ac ymwybyddiaeth o gynnwys cyfredol ar-lein a threndiau fideos feiral. Ar ben brwdfrydedd tuag at gynnwys socials a fideo ffurf fer, bydd profiad o saethu a golygu yn fanteisiol.

Mwy am Boom Social

Mae Boom Social yn creu ystod eang o gynnwys ar gyfer brandiau, cyrff blaenllaw a darlledwyr e.e. Hansh, S4C, BBC Three, BBC Sport, S4C Dysgu Cymraeg, BBC Cymru/Wales, BBC Ideas, Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae’r adran yn cynhyrchu dros 750 darn o gynnwys yn flynyddol yn cynnwys, ffurf fer, dogfennau ffurf hir, podlediadau a digwyddiadau byw.

Ymgeisiwch drwy yrru CV a llythyr atodol at hr@boomcymru.co.uk erbyn 04/09/2026

Rhaid cynnwys linciau i o leia 2 ddarn o gynnwys o waith sy’n dangos dy allu i greu cynnwys arlein.

Mae Boom Cymru yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu pobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. Rydym yn ymroi i adlewyrchu a chynrychioli’r amrywiaeth a geir yn y Deyrnas Unedig ymhob agwedd o’n gwaith.

Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom Cymru a chaiff y wybodaeth a gyflenwir ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru (https://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/) Byddwn yn cadw eich CV am 6 mis, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei ddileu yn gynharach.

Trwydded Yrru Lawn yn angenrheidiol.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn angenrheidiol

Cyflog – Dibynnol ar brofiad

LLEOLIAD – Caerdydd

Hyd y Cytundeb – 6 mis

Gwnewch gais am y swydd hon

Allowed Type(s): .pdf, .doc, .docx