Mae’r gyfres gylchgrawn i bobl ifanc, Tag, yn dathlu darlledu 200 o raglenni ar S4C ar ddydd Gwener, 25ain o Dachwedd 2016.

Owain Williams a Mari Lovgreen sy’n cyflwyno Tag, sy’n cael ei ddarlledu bob brynhawn Mawrth (5.25y.p.) a dydd Gwener (5.00y.p.) ar Stwnsh, gwasanaeth plant a phobl ifanc y Sianel ac sy’n cael ei chynhyrchu gan gwmni Boom Plant.

DJ Radio 1 Huw Stephens a’r band Swnami fydd yn y stiwdio i ddathlu’r pen-blwydd arbennig ar y 25ain o Dachwedd am 5.00y.p.

Yn ogystal, fe fydd Owain, Mari a’r criw yn edrych nôl ar uchafbwyntiau’r 200 o raglenni a chyfle unigryw i’r gwylwyr weld beth sy’n digwydd tu ôl y camerâu ar Tag.

Ymhlith y sêr i ymddangos ar y gyfres ar hyd y blynyddoedd mae’r pêl-droedwyr Ben Davies a Joe Allen, actores Gotham Erin Richards, y sêr Olympaidd a Paralympaidd Owain Doull ac Aled Siôn Davies, yr actorion Ioan Gruffudd, Iwan Rheon a Matthew Rhys, is-reolwr pêl-droed Cymru Osian Roberts a chyflwynydd The One Show Alex Jones.

Ar y carped coch mae Owain wedi mwynhau clonc gyda rai o sêr mwyaf blaenllaw Hollywood – gan gynnwys Will Ferrell, George Clooney, Mark Wahlberg, Dwayne ‘The Rock’ Johnson, Jack Black, Keira Knightly, Chris Hemsworth, Kate Hudson a Vin Diesel.

Mae camerâu Tag hefyd wedi mentro tu ôl y llen ar rai o gyfresi amlyca Cymru a thu hwnt – Doctor Who, Pobol y Cwm, Match of the Day, Coronation Street, Eastenders, The X Factor, Emmerdale, Soccer AM, Rownd a Rownd, Gwaith Cartref, Casualty, A Question of Sport, Good Morning Britain, The One Show, Sky Sports News, BT Sport a Waterloo Road.

Am y tro cyntaf eleni hefyd, buodd criw Tag ar antur tramor pan aeth Owain i gwrdd â chwaraewyr pêl-droed Cymru wrth iddyn nhw baratoi at bencampwriaeth hanesyddol Ewro 2016 yn y gwersyll hyfforddi ym Mhortiwgal.

Cafodd rhaglen gyntaf Tag ei ddarlledu ar y 4ydd o Dachwedd 2011 gyda’r cyflwynwyr Geraint Hardy ac Elin Llwyd wrth y llyw.

Bob wythnos, mae tîm Tag yn adolygu a sgwrsio am ffasiwn, selebs, chwaraeon, coginio, cerddoriaeth, gadjets a gemau.

Mae modd gwylio cynnwys egscliwsif ar wefan Tag – s4c.cymru/tag – yn ogystal ag eitemau o’r gorffennol.

Dilynwch Tag ar Instagram, Facebook, Twitter a Snapchat (TagS4C) am gynnwys cyfredol.

TAG (Stwnsh, S4C)
Bob Dydd Mawrth (5.25y.p) a dydd Gwener (5.00 y.p)
Cynhyrchiad Boom Plant i S4C