Hoffet ti fod yn gyflwynydd Cyw? Oes gen ti’r egni a’r brwdfrydedd i danio dychymyg plant bach 0-6 oed yn y Gymraeg? Os felly, rydym am glywed gen ti. Rydym ni yn Boom Plant yn falch o gyhoeddi ein bod yn chwilio am gyflwynydd newydd i ymuno â thîm hwyliog Cyw – gwasanaeth Meithrin poblogaidd a phwysig S4C.
Mae’r swydd yn amrywiol, prysur a chyffrous. Yn ogystal â’r brif rôl o gyflwyno a diddanu’r gwylwyr ifanc, mae’r dyletswyddau hefyd yn cynnwys ymchwilio, datblygu syniadau gwreiddiol, sgriptio a bod yn aelod allweddol o dîm Cyw.
Yn wyneb i’r brand, mae hyrwyddo, dathlu a marchnata’r cynnwys mewn ysgolion a chymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws Cymru hefyd yn rhan bwysig o’r swydd. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.
Llenwa’r ffurflen gais isod. O fewn y ffurflen uwchwlytha fideo heb fod yn hirach na munud o hyd wedi ei recordio ar dy ffôn. Ynddo rydym am weld dy bersonoliaeth yn serennu a pham y dylen ni dy ystyried di fel cyflwynydd newydd nesaf Cyw. Pob lwc!