Mae Boom yn chwilio am Ymchwilydd brwdfrydig a chreadigol gyda sgiliau Hunan-Saethu sydd wedi eu lleoli yn ddelfrydol yng Ngwlad yr Haf neu Sir Dyfnaint i weithio ar raglen ddogfen trosedd 1 x 90m i Channel 5. Mae’r cytundeb yn cychwyn o’r 30ain o Fedi 2024 ac yn para am 4 wythnos.

Mae’r rôl yn adrodd i’r Uwch Gynhyrchydd, a byddwch yn gyfrifol am gefnogi’r Cynhyrchydd / Cyfarwyddwr yn ystod wythnos o baratoi, ac yn saethu ail-gamera tra ar leoliad yn ogystal ag unrhyw dasgau eraill yn cynnwys edrych ar ôl offer, cyfranwyr a rhannu’r gyrru gyda’r tîm.

Mae’r cytundeb yn cynnwys 1 wythnos o waith paratoi, a 3 wythnos ar leoliad. Mae profiad o weithio ar leoliad gyda chriwiau bach yn angenrheidiol i’r rôl yma.

Gwnewch gais trwy anfon eich CV, llythyr eglurhaol a disgwyliadau cyflog i hr@boomcymru.co.uk erbyn 20fed o Fedi 2023.

Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.

Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom  (https://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).

Gwnewch gais am y swydd hon

Allowed Type(s): .pdf, .doc, .docx