Ein Hysbysiadau Preifatrwydd

Mae’r dudalen hon yn darparu dolenni i’r Hysbysiadau Preifatrwydd, sy’n egluro arferion preifatrwydd Boom Cymru TV Cyf (y cyfeirir atynt gyda’n gilydd fel “ni”, “ein” neu “Cwmni”). Os ydych chi’n darparu gwybodaeth i aelod arall o Gwmni Grŵp ITV, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd y cwmni hwnnw sydd ar gael ar y wefan berthnasol.

Mae’r Cwmni wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth a byddwn yn cadw’ch gwybodaeth yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol ar ddiogelu data. Mae ein Hysbysiadau Preifatrwydd yn nodi sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Isod, rydym ni wedi nodi pam y gallem fod yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol. Ar gyfer pob sefyllfa, mae dolen i esboniad pa wybodaeth y gallwn ei chasglu yn y sefyllfa honno, pam rydym ni yn ei chasglu, sut rydym ni yn ei defnyddio, gyda phwy rydym ni yn ei rhannu a beth yw eich hawliau o ran eich gwybodaeth bersonol. Rydym ni hefyd wedi cynnwys manylion cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Darllenwch y wybodaeth hon a chysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Efallai y byddwn yn diweddaru’r Hysbysiadau Preifatrwydd hyn o bryd i’w gilydd a bydd unrhyw newidiadau i’w gweld ar ein gwefan

Diweddarwyd yr Hysbysiadau Preifatrwydd hyn ddiwethaf ar y 10 Chwefror 2021.

TROSOLWG O BOLISI PREIFATRWYDD BOOM CYMRU cliciwch yma

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD I GYFRANWYR BOOM CYMRU TV Cyf
Os ydych chi’n cymryd rhan, neu’n gwneud cais i gymryd rhan yn unrhyw un o’n rhaglenni, gan gynnwys fel aelod o’r gynulleidfa, cliciwch yma

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD YMGEISYDD SWYDD
Os ydych chi’n gwneud cais i weithio yn Boom Cymru naill ai fel gweithiwr, gweithiwr llawrydd neu gontractwr, neu os hoffech i ni gadw eich CV ar ffeil, cliciwch yma

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD CYSTADLAETHAU AC UGC
cliciwch yma

POLISI PREIFATRWYDD I RYDDGYFRANWYR
Os ydych yn gweithio gyda ni fel rhyddgyfrannydd cliciwch yma

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV