Lleoliad – Bae Caerdydd

Cyflog – yn ddibynnol ar brofiad

Mae Boom yn rhan o ITV Studios ac yn un o gwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf Cymru. Gyda phencadlys ym Mae Caerdydd, mae ein busnesau cynhyrchu, ôl-gynhyrchu, effeithiau gweledol a graffeg symudol yn darparu cynnwys i S4C, BBC, C4, ITV, C5, UKTV, Netflix a HBO.

Rydym yn awyddus i recriwtio Gweinyddydd i gefnogi ein Rheolydd Adnoddau Dynol. Bydd y person yn y rôl yma’n gyfrifol am lunio cytundebau (yn Gymraeg a Saesneg) i staff a gweithwyr llaw-rydd, helpu staff newydd i gynefino a gweinyddu hyfforddiant. Bydd hefyd yn helpu i gynnal y gwiriadau a chynnal y cofnodion sydd eu hangen ar swyddfa brysur yn gywir, yn ogystal ag ymgymryd â llawer o ddyletswyddau gweinyddol a chymorth AD cyffredinol eraill.

Mae hwn yn gyfle cyffrous, yn enwedig i rywun sy’n chwilio am yrfa mewn Adnoddau Dynol. Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu, gweinyddol a TG profedig, a llygad am fanylion. Rhaid iddynt feddu ar sgiliau cyfathrebu cryf, ac mae’r Gymraeg yn hanfodol. Rhaid bod yn rhagweithiol a chanddynt allu profedig i gyflawni gwaith o fewn terfyn amser penodol. Bydd gofyn trafod gwybodaeth sensitif a chyfrinachol.

Gwnewch gais trwy anfon eich CV, llythyr cais a disgwyliadau cyflog at hr@boomcymru.co.uk erbyn 31 Awst 2023.

Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.

Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom (https://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).

Gwnewch gais am y swydd hon

Allowed Type(s): .pdf, .doc, .docx

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV