CYFLOG: Yn dibynnu ar brofiad
CYTUNDEB: Penodedig (12 mis)
LLEOLIDAD: Caerdydd (gyda’r gallu i weithio’n hyblyg)
DYDDIAD CAU: 30/11/23
Dyma gyfle gwych i Gynorthwy-ydd Cyfrifon ymuno â thîm Cwmni Cynhyrchu Teledu llwyddiannus. Mae’r swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sy’n chwilio am yrfa ym maes Cyllid.
Bydd y cyfle i astudio ar gyfer cymhwyster cyfrifeg berthnasol ar gael i’r ymgeisydd.
Yn ddelfrydol byddai gennych gefndir mewn gweinyddu cyfrifon. Mae’r cwmni’n defnyddio pecyn meddalwedd cyfrifon Microsoft Navision ar hyn o bryd. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae Boom yn rhan o ITV Studios ac yn un o gwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf Cymru. Gyda’n bencadlys ym Mae Caerdydd, mae ein busnesau cynhyrchu, ôl-gynhyrchu, effeithiau gweledol a graffeg symudol yn darparu cynnwys i S4C, BBC, C4, ITV, C5, UKTV, Netflix a HBO.
Rhaid i’r ymgeisydd delfrydol fod yn:
- Drylwyr ac yn drefnus
- Gwneud gwaith cywir gyda llygad am fanylyn
- Gallu cymryd cyfrifoldeb am dasgau a chyflawni gwaith o fewn terfynau amser
- Meddu gallu cyfrifiadurol gyda sgiliau rhifedd rhagorol (rhaid meddu ar ddealltwriaeth dda o Excel)
- Gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
- Gallu cyfathrebu’n effeithlon gan ddefnyddio ystod o sgiliau i gefnogi staff o fewn y cwmni
Bydd dyletswyddau’r rôl yn cynnwys:
- Cynnal rhediad dydd i ddydd y cyfrifon cyfriflyfr pryniant
- Prosesu anfonebau
- Monitro a datrys anfonebau sy’n destun dadl
- Delio â’r holl alwadau ffôn, e-byst ac ymholiadau ynglŷn â thaliadau
- Gweinyddu bancio a chysoniadau yn ôl yr angen
- Cymorth gyda chyfriflyfr gwerthu, hawliadau treuliau a derbynebau cardiau credyd yn ôl yr angen
- Bydd unrhyw ddyletswyddau eraill sydd eu hangen yn cael eu pennu gan y Rheolwr Cyllid
Gwnewch gais trwy anfon eich CV, llythyr i gyflwyno’ch hunan a disgwyliadau cyflog i hr@boomcymru.co.uk
Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.
Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbydiad Prefatrwydd Boom