Llawn amser – Ionawr 2025 i ddiwedd Mehefin 2025 (6 mis)

Dyddiad Cau: 06.12.24

Lleoliad Swyddfa – Gloworks, Bae Caerdydd

Mae Boom Plant yn chwilio am ymchwilydd i weithio ar raglenni Stwnsh. Mae cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys datblygu syniadau a chynnwys fydd yn apelio i gynulleidfa 6 – 11 mlwydd oed, castio timau, trefnu cynnwys a chyfranwyr, a delio gyda newidiadau munud olaf rhaglen fyw.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, yn angenrheidiol i’r swydd, a bydd angen teithio i leoliadau felly mae’n hanfodol i gael trwydded gyrru (neu gyfwerth) llawn.

Mae’r profiad o weithio gyda phlant yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Cais trwy lythyr a CV at hr@boomcymru.co.uk gan nodi Boom Plant

Mae Boom Cymru yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu pobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. Rydym yn ymroi i adlewyrchu a chynrychioli’r amrywiaeth a geir yn y Deyrnas Unedig ymhob agwedd o’n gwaith.

 Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom Cymru a chaiff y wybodaeth a gyflenwir ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a (Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru). Byddwn yn cadw eich CV am 6 mis, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei ddileu yn gynharach

Gwnewch gais am y swydd hon

Allowed Type(s): .pdf, .doc, .docx