Con Passionate

Con Passionate

Hynt a helyntion Côr Meibion Gwili a’i harweinydd Davina Roberts. Ydych chi’n meddwl eich bod yn adnabod y person sy’n sefyll drws nesa i chi yn y côr? Ydych chi’n adnabod eich hun? Gyda dyfodiad Davina, daw ffaeleddau a gwendidau’r giwed i’r wyneb. Wrth barhau i chwilio am ddilysiant a phwrpas mae cyffyrddiad Davina yn newid eu bywydau mewn amrywiol ffyrdd. Mae storiâu a sefyllfaoedd y gyfres wedi’u seilio ar realiti ond yn datblygu ar brydiau i dir fwy swreal, drwy freuddwydion, ffantasiâu a meddyliau cudd y cymeriadau. Yn tanlinellu mewn gwirionedd pa mor abnormal yw bywyd normal. Mae angerdd yn gallu cyfoethogi bywyd. Mae angerdd hefyd yn gallu’i ddinistrio.

Enillydd Gwobr Rose D’Or ar gyfer y ddrama orau.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV