Llongyfarchiadau i Euryn Ogwen Williams ar dderbyn tlws Cyfraniad Oes yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin. Rhoddir y wobr er cof am y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr John Hefin.

Dechreuodd Euryn ei yrfa fel cyflwynydd gyda chwmni TWW, cyn symud i ochr arall y camera fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr. Bu’n gweithio hefyd i HTV, cyn symud i S4C fel Pennaeth Rhaglenni a Dirprwy Brif Weithredwr y sianel. Ymunodd â Boom Cymru yn 2006. Hoffai pawb yn Boom Cymru longyfarch Euryn ar dderbyn yr anrhydedd haeddiannol yma.

Am fwy o wybodaeth am yr Ŵyl: http://www.carmarthenbayfilmfestival.co.uk

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV