Chwilio am gyfranwyr ar gyfer Cegin Bryn yn Ffrainc

_DSC9245

Chwilio am gyfranwyr ar gyfer Cegin Bryn yn Ffrainc

26-06-2017

Ry’n ni’n chwilio am gyfranwyr posib ar gyfer y gyfres nesa o Cegin Bryn, fydd yn cael ei ffilmio yn Ffrainc.

Byddwn ni’n ffilmio yn ardal Paris ac yn ne-ddwyrain Ffrainc.

Tybed a ydych chi’n adnabod unrhyw siaradwyr Cymraeg sy’n byw yn yr ardaloedd hyn?
Hoffwn ni i rywun dywys Bryn o amgylch yr ardal a dangos y bwydydd/cynnyrch lleol a nodweddiadol o’r ardal honno.

Bydd Bryn yn coginio iddyn nhw fel diolch yn rhan o’r rhaglen!

Os y’ch chi’n gwybod am rywun, a fyddech chi cystal ag anfon neges at:

catrin.honeybill@boomcymru.co.uk
neu
lois.dafydd@boomcymru.co.uk