Chwilio am ddysgwyr i gystadlu ar ‘Llyncu Geiriau’

llyncu-geiriau

Chwilio am ddysgwyr i gystadlu ar ‘Llyncu Geiriau’

24-06-2016

Mae Boom Cymru yn cynhyrchu cyfres newydd o’r cwis hwyliog i ddysgwyr Cymraeg – ‘Llyncu Geiriau’. Gydag Eleri Siôn yn cyflwyno, bydd panelwyr yn cystadlu am y gorau i adnabod, cofio, creu a chyfieithu geiriau o bob math.

Felly rydym yn chwilio am ddysgwyr ar lefel Canolradd ac Uwch i gystadlu mewn timau o ddau. Byddwn yn ffilmio ar y 7, 8 a 9 o Hydref.

Cysylltwch yn fuan os oes gennych ddiddordeb ar 02922 450218. Neu ebostiwch hr@boomcymru.co.uk

Diolch!