Mae Boom Cymru wedi derbyn 10 enwebiad yng ngwobrau BAFTA Cymru 2016.

Mae 35 Diwrnod wedi derbyn enwebiad yn yr adran Drama Deledu. Enwebwyd Lee Haven Jones ar gyfer Cyfarwyddwr Ffuglen ar yr un cynhyrchiad, a Siwan Jones a Wil Roberts fel Awdur.

Enwebwyd Will Millard fel Cyflwynydd am Hunters of the South Seas, a Luke Pavey yng nghategori Ffotograffiaeth Ffeithiol am The River Taff.

Yn yr adran Darllediad Allanol Byw, enwebwyd Y Sioe.

Mae’r Gemau Gwyllt (Aled Mills) a #Fi (Elin Jones) wedi enwebu yn yr adran Rhaglen Blant.

Mae Patagonia Eric Jones & Ioan Doyle wedi derbyn enwebiad ar gyfer Rhaglen Ddogfen Unigol, a Bryn Terfel – Bywyd Trwy Gân ar gyfer Rhaglen Adloniant
Mae’r rhestr gyflawn o enwebiadau ar gael yma.

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV