Mae Ewro 2016 yn ei hanterth a Codi Gôl, ein cyfres newydd, yn cael ei darlledu’n wythnosol. Gwyliwch y bennod nesaf ddydd Sul y 19eg o Fehefin am 8yh.

Mae rhieni’r pedwar clwb pêl-droed iau – Amlwch, Pwllheli, Rhydaman a Ffostrasol – wedi ffurfio eu timau eu hunain sy’n cael eu rheoli gan y cyn-chwaraewyr rhyngwladol John Hartson, Malcolm Allen, Owain Tudur Jones ac Iwan Roberts. Eu nod? Ennill eu lle yn y gêm derfynol yn erbyn Dinard FC yn Llydaw sy’n cael eu rheoli gan y cyn-chwaraewr rhyngwladol Ffrengig, Robert Rico. Yn y cyfamser, mae’r plant wedi ffurfio pwyllgorau er mwyn cadw llygad barcud ar eu rhieni yn ystod y broses.

Yn dilyn eu buddugoliaeth yn y bencampwriaeth ar Barc Latham yr wythnos diwethaf, mae tîm Amlwch a’u rheolwr Owain yn edrych ymlaen at deithio i Dinard, sef cartref tîm Cymru yn ystod Ewro 2016. Sut fyddan nhw’n teimlo wrth ddod wyneb yn wyneb â’u gwrthwynebwyr? Gallwch chi ddisgwyl ambell ruthr pasbort munud olaf a gwersi Ffrangeg…

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV