Y Llys

Y Llys

Cyfres Hanes Byw lle mae 17 unigolyn dewr yn teithio yn ôl i’r flwyddyn 1525. Mae’r gyfres yn dilyn llwyddiant cyfres Y Plas, oedd yn canolbwyntio ar fywyd mewn plasty yn Llanerchaeron ym 1910. Y tro yma rydym yn teithio i Oes y Tuduriaid pan oedd Harri’r Wythfed yn frenin ar Gymru a Lloegr, lle mae’r criw yn byw, gwisgo, hamddena a gweithio fel pobl yng nghyfnod Oes y Tuduriaid yn Llys Tretŵr ger Crughywel yng ngodre Bannau Brycheiniog. Dilynwn hynt a helynt y criw wrth iddynt ymdopi â bywyd mewn Llys Tuduraidd – lle gorfodir iddynt ddygymod ag amodau byw sylfaenol tu hwnt; dim trydan, gwres canolog na thechnoleg fodern i’w cysuro.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV