Mae Tŵt, Anturiaethau’r Bad Bach (52 x 11’) yn gyfres liwgar, 2D animeiddiedig newydd sydd wedi ei seilio ar lyfr “Toot and Pop!” gan Sebastian Braun. Mae Tŵt yn newydd i’r gwaith ac yn awyddus i fwynhau ei hun a phlesio’i ffrindiau a thrigolion eraill yr harbwr. Gwaith Tŵt yw arwain y cychod mawr fel Pop a Breian y Fferi mewn i’r harbwr ac yn ôl mas i’r môr pan fo angen. Mae hefyd yn tynnu’r cychod camlas ar hyd camlesi’r ardal ac yn achub cychod sydd wedi mynd i drafferthion ar y môr mawr.

O dro i dro, mae awydd y bad bach am antur yn peri iddo wneud camgymeriadau, ond mae Tŵt yn dysgu’n gyflym a chyn pen dim, clywir ei lais ifanc yn atseinio drwy’r harbwr, ‘Mawr Bach! Dim Strach!’ Cynhyrchir Twt gan Boom Plant, Lupus Films a Cloth Cat Animation.

Gwyliwch Tŵt yn foreol am 6.30 ar Channel 5.

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV