Songbird – The Gordon Mills Story

Songbird – The Gordon Mills Story

Daeth yn aml-filiwnydd yn y chwedegau a thywys Tom Jones, Engelbert Humperdinck a Gilbert O’Sullivan i enwogrwydd, a dod yn un o’r bobl bwysicaf yn hanes cerddoriaeth Prydain. Sefydlodd y sŵ preifat mwyaf yn y byd, ‘Little Rhondda’ yn St George’s Hill, Surrey, ac ysgrifennodd y gân a fu’n ysgubol o lwyddiannus yn y wlad yma ac yn America, ‘It’s Not Unusual’. Gordon Mills – nid rheolwr arferol mohono. Er gwaethaf ei lwyddiannau, mae’n parhau i fod yn anhysbys i raddau helaeth. Gyda mynediad llawn ac ecsgliwsif i’r teulu Mills, mae’r ffilm bersonol hon yn adrodd – am y tro cyntaf – stori ‘Mills Man of Music’ drwy lygaid y rhai a oedd yn ei adnabod orau.

Boom Cymru
Boom Cymru Working with BBC One Wales

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV