Panto Shane a’r Belen Aur

Panto Shane a’r Belen Aur

Wythdeg saith o gapiau dros Gymru a phumdeg wyth cais – y mwyaf gan unrhyw chwaraewr yn hanes rygbi Cymru. Ddim yn ffôl am rhywun oedd yn ôl rhai yn rhy fach i chwarae rygbi! Dyna yw stori Shane Williams, cyn chwaraewr Cymru, Castell Nedd, Y Gweilch a’r Llewod. Mae’n stori dylwyth teg a nawr mae stori Shane yn dod yn fyw mewn pantomeim arbennig. Bydd rhai o sêr rygbi Cymru yn ymuno â chast o berfformwyr talentog i adrodd stori Shane a’r Belen Aur. Bydd yna lot o chwerthin a sbri i’r teulu cyfan wrth i Tara Bethan, Rhys ap William, Ieuan Rhys, Nigel Owens, Sarra Elgan, Caryl Morgan ac, wrth gwrs, Shane ei hun ddod â’r cyfan yn fyw o lwyfan Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV