Ludus

Ludus

Cyfres ryngweithiol unigryw. Mae Ludus wedi troi teuluoedd a ffrindiau’r chwaraewyr yn hologramau. Ei gynllun? I’w uwchlwytho mewn i’w gêm am byth! Mae’r chwaraewyr yn ymweld â chwech o lefelau – pob un a gêm wahanol i’w chwarae. Wrth ennill, mae chwaraewyr yn achub un o’r hologramau; colli ac mae nhw’n cael eu huwchlwytho i mewn i’r gêm am byth. Mae’r chwaraewyr yn teithio rhwng pob lefel yn llong-ofod yr Herculean, sydd â llais cyfrifiadur i’w harwain. Pan fydd y chwaraewyr wedi cwblhau’r chwe lefel, ac wedi achub, neu golli, eu ffrindiau a’u teuluoedd, mae nhw’n wynebu ‘Y Gêm Derfynol’ i ennill tocyn adref. Heb y tocyn yma, byddant yn sownd yn y gofod gwag gyda Ludus am byth!

Mae gan Ludus ap ar gyfer ffôn symudol, tabled a chyfrifiadur, a gall y defnyddiwr chwarae’r gemau gyda, neu’n annibynnol o’r rhaglenni.

Boom Kids
CBBC and S4C

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV