Fy Nhad y Swltan?

Fy Nhad y Swltan?

Dilynwn stori anhygoel Keith Williams (Keith y Glo) o Benygroes ger Rhydaman, wrth iddo deithio i Falaysia i geisio darganfod pwy oedd ei dad. Mabwysiadwyd Keith yn fabi, a phenderfynodd fynd ar drywydd ei rieni gwaed wedi i’w rieni mabwysiedig farw. Wedi cwrdd â’i fam, mae taith Keith i ddarganfod mwy am ei dad yn mynd ag ef i Falaysia. Mae’r ddogfen yma yn dilyn Keith wrth iddo deithio i’r wlad am y tro cyntaf er mwyn darganfod y gwir am ei hanes a’i achau.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV