Codi Gôl

Codi Gôl

Cyfres newydd sbon sydd yn arwain at Bencampwriaethau Euro 2016 ac yn adlewyrchu cymunedau trwy eu diddordeb mewn pêl droed. Mae Codi Gôl yn dilyn hynt a helynt pedwar clwb pêl-droed ieuenctid – Amlwch, Pwllheli, Rhydaman a Ffostrasol. Ond y mamau a’r tadau, yn hytrach na’r plant sydd yn sefydlu tim newydd ac yn cystadlu am y siawns i deithio i Dinard a chwarae yn erbyn tîm o rieni Llydewig. Mae’r plant yn sefydlu pwyllgorau ac yn cadw llygaid barcud ar y rheolwyr (y cyn-chwaraewyr rhyngwaldol, John Hartson, Malcolm Allen, Owain Tudur Jones ac Iwan Roberts) wrth iddynt geisio rhoi arweiniad a chyfeiriad i’r rhieni.

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV