Codi Canu Cwpan Rygbi’r Byd 2015

Codi Canu Cwpan Rygbi’r Byd 2015

Ers canrifoedd bellach mae Cymru’n cael ei adnabod fel gwlad y gân. Ond mae gan y genedl gariad mawr arall hefyd wrth gwrs – rygbi. Ym mlwyddyn Cwpan Rygbi’r Byd felly, pa well ffordd i gyfuno dau gariad y genedl na Codi Canu Cwpan Rygbi’r Byd 2015? Daw pum côr Rhanbarthau Rygbi Cymru at ei gilydd i gystadlu am goron Codi Canu Cwpan Rygbi’r Byd. Dan lygaid craff y Cyfarwyddwr Cerdd Tim Rhys Evans, mae’r corau’n cael eu partneri gyda rhai o wledydd Cwpan Rygbi’r Byd i wynebu’r her o ddysgu anthem a chân draddodiadol o’r wlad honno. Tybed sut fydd Côr y Gleision yn ymdopi ag anthem Fiji, Côr Rygbi’r Gogledd gyda’r iaith Georgeg, Y Gweilch gydag anthem Awstralia, Y Scarlets gydag Iwerddon a Chôr y Dreigiau gyda’r iaith Sbaeneg ag anthem Uruguay? Mae anogaeth a lleisiau’r capteiniaid yn holl bwysig, felly mae ‘na dipyn o bwysau ar y cyn chwaraewyr rhyngwladol Shane Williams, Dafydd Jones, Deiniol Jones, Rhodri Gomer Davies a Rupert Moon.
A’r ddau gwestiwn mawr trwy gydol y gyfres – pa gôr fydd yn fuddugol yn y rownd derfynol ac yn cael eu coroni’n Bencampwyr Codi Canu Cwpan Rygbi’r Byd?

Boom Cymru
Boom Cymru working with s4c

Yn gweithio gyda

Boom Cymru working with channel 4
UKTV